Welsh - Future Leader Application

AACD 3.0 Holiadur Cais Recriwtio Agored

Cliciwch yma i weld y ffurflen Saesneg.


Mae croeso i chi ymgeisio isod, os ydych chi mewn gwaith cyflogedig neu beidio.


Os ydych chi mewn gwaith cyflogedig, bydd angen i chi gadarnhau:

1. Bod ganddoch yr argaeledd i gymryd rhan yn y rhaglen a

2. Bod eich rheolwr llinell neu eich sefydliad yn cymeradwyo eich cyfranogiad yn yr Academi.


Os nad ydych chi mewn gwaith cyflogedig, dewisiwch “ddim yn berthnasol".

Mae hyn oherwydd y byddwn yn gofyn i’ch rheolwr llinell neu gynrychiolydd yn eich sefydliad i’ch helpu i adnabod ardal ffocws ar gyfer cynllun gweithredol y byddwch yn eu datblygu yn ystod yr Academi. Byddwn hefyd yn gofyn i’ch rheolwr llinell neu i’ch sefydliad i gwblhau arolwg byr iawn ar eich datblygiad arweinyddol ar ddechrau ac ar ddiwedd y rhaglen. 


Cronfa Hygyrchedd

Nodwch os gwelwch yn dda bod gennym gronfa hygyrchedd i roi cymorth i unrhyw un sydd ag anghenion gofal neu sy’n wynebu rhwystrau ariannol i gymryd rhan yn y rhaglen, felly os gwelwch yn dda, ymgeisiwch, ac os ydych chi’n cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn trafod unrhyw faterion hygyrchedd gyda chi. 


Apwyntio’r Rhestr Fer

Os ydych yn ymgeisydd Du, Asiaidd neu Ething Leiafrifol neu’n berson anabl, byddwn yn eich gosod ar y rhestr fer ac yn cynnig cyfweliad i chi yn awtomatig, ond mae rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau ar y ffurflen o hyd. 


1) Manylion Personol:

Defnyddiwch y fformat ebost cywir e.e prawf@prawf.com


Peidiwch â defnyddio cyfeiriad gwaith neu brifysgol os gwelwch yn dda rhag ofn i chi newid swydd neu orffen yn y brifysgol tra eich bod ar y rhaglen!

Defnyddiwch y ffurf gywir ar y côd post e.e. AA1 1AA

2) Dywedwch wrthym am eich amgylchiadau presennol

Os yw’n berthnasol, nodwch pa leoliad gwaith / darparwr addysg yn y bwlch isod os gwelwch yn dda, neu os ydych yn dewis “Arall”, darparwch fanylion:

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn noddi dau safle i bobl sy’n gweithio yn sector y celfyddydau (mae hyn yn cynnwys staff mewn sefydliadau celfyddydol, neu’r rhai sy’n gweithio fel artistiaid, ymarferwyr creadigol neu bobl sy’n gweithio’n llawrhydd). Ticiwch yma, os gwelwch yn dda, os ydych chi’n gweithio yn y celfyddydau er mwyn cael eich hystyried ar gyfer y llefydd hyn. Bydd eich cais yn parhau i gael ei ystyried ar gyfer y lleoedd eraill sydd ar gael.

3) Rydym yn edrych i adeiladu grwp amrywiol o bobl ifanc sydd wedi ymrwymo i gyrraedd eu potensial arweinyddol a sbarduno gweithrediad cymdeithasol yn eu cymuned leol.


Byddwch yn gweld 4 cwestiwn isod (A-Ch). Gallwch ymateb mewn ffyrdd gwahanol:

- Ysgrifennwch eich atebion yn y blychau

- NEU gyflwynwch recordiad fideo/fideo animeiddiedig/sain - trac llais/cân (hyd at uchafswm o 120 eiliad)

- NEU gyflwynwch ddarlun/braslun/cerdd (hyd at 2 dudalen)



Uchafswm: 1000 o nodau

0/1000

Uchafswm: 1000 o nodau

0/1000

Uchafswm: 1000 o nodau

0/1000

Uchafswm: 1000 o nodau

0/1000

Nid ydym yn sgorio hyn, mae ar gyfer cael mewnwelediadau.


4) Manylion Pellach


Ni fydd y wybodaeth yma yn cael ei hystyried fel rhan o’ch cais.



Rydym yn defnyddio’r data hwn i fonitro demograffig y bobl sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen. 

Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol mewn partneriaeth ag Elevate BC yn weithredol wrth hybu cydraddoldeb o gyfleuon i bawb yn ystod Rhaglen yr Academi 3.0. Rydym yn edrych am y cymysgedd cywir o dalent, sgiliau a photensial ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys rheinny sydd â chofnodion troseddol.


Rydym yn dewis ymgesiwyr ar gyfer rhaglenni wedi selio ar eu sgiliau, profiad ac addasrwydd.


Byddwn yn gofyn i bob ymgeisydd i ddarparu manylion am unrhyw gofnod troseddol fel rhan o’r broses ymgeisio. Dim ond staff o fewn ein tîm sydd angen gweld y wybodaeth yma a fydd yn ei weld. 


Ni fydd gwybodaeth ar gofnodion troseddol yn cael eu defnyddio fel rhan o’r broses wrth lunio’r rhestr fer ar gyfer ymgeiswyr.

Rydym wedi gofyn am eich data demograffig a’ch cenfidr oherwydd rydym yn defnyddio hwn i fonitro pwy sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ac i ddweud wrth ein cyllidwyr pwy sy’n cael mynediad i’r prosiectau maen nhw’n eu hariannu (e.e. 62% yn fenywaidd, 15% yn Foslemaidd, 24% LHDTCRh+). Nid ydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i’ch adnabod chi fel unigolyn ac ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol.


Mae’n polisi preifatrwydd ni yn nodi sut rydym yn defnyddio ac yn amddiffyn eich data personol. Os ydych chi wedi cwblhau’r data ynghylch demograffig, mae angen i chi gydsynio i ni storio’r wybodaeth yma.

Byddwch yn clywed wrthom ni am ganlyniad y cais hwn cyn bo hir.


Bydd Elevate BC a CCD yn hapus i gynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt yn ein rhestrau llythyru er mwyn eich hysbysu am gyfleuon posib yn y dyfodol i ryngweithio, digwyddiadau, cydweithredu, a mwy! Os oes diddordeb gennych - ticiwch y blwch hwn, os gwelwch yn dda.

Powered by NoteForms